Eisteddfod Caerdydd 2018

Paratoi ar gyfer Eisteddfod 2018!
Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Gaerdydd yr haf nesaf – ac, fel sy’n digwydd bob tro, mae cymunedau lleol yn brysur yn codi arian i gefnogi’r digwyddiad. Gofynwyd i’r gymuned leol yn Radur a Phentrepoeth i godi £30,000 erbyn mis Awst nesaf ac, i wneud hynny, mae pwyllgor codi arian wedi ei sefydlu, i helpu trefnu ystod eang o ddigwyddiadau difyr. Os ydych am gymryd rhan, neu am ddysgu mwy, cysylltwch â ni drwy Cylchradurgarth@gmail.com.
Cadeirydd y Pwyllgor yw Huw Onllwyn Jones (sydd hefyd yn is-Gadeirydd Cyngor Cymuned Radur a Phentrepoeth). Gweddill yr aelodau yw Bet Davies, Angharad Lewis, Allan Cook, Beth Tame, Sioned Nash, Catrin Williams a Wendy Owen.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl ifanc a gan siaradwyr Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Ar y llaw arall, os nad ydych yn gallu rhoi o’ch amser, mae croeso i chi gyfrannu at yr achos drwy fynd, trwy Google, at dudalen ‘Just Giving Eisteddfod Caerdydd‘ (ond cofiwch nodi ‘Radur a Phentrepoeth’ ynghyd â’ch enw, pan fyddwch yn gwneud eich rhodd).
Diolch!
Getting ready for the 2018 Eisteddfod!
The National Eisteddfod is coming to Cardiff next summer – and, as is always the case, local communities are busy fund-raising to support the event. The local community in Radyr and Morganstown has been asked to raise £30,000 by next August and, to do this, a fund-raising committee has been established to help arrange a wide range of fun and enjoyable events. If you want to take part, or just learn more, please contact us via Cylchradurgarth@gmail.com
The Committee’s Chair is Huw Onllwyn Jones (who is also Deputy Chair of Radyr and Morganstown Community Council). The other committee members are Bet Davies, Angharad Lewis, Allan Cook, Beth Tame, Sioned Nash, Catrin Williams and Wendy Owen.
We are particularly keen to hear from younger people and from Welsh-speakers and non Welsh-speakers alike. On the other hand, if you can’t give of your time, you are welcome to donate to this good cause by going, via Google, to the ‘Eisteddfod Caerdydd Just Giving’ page (but please note ‘Radyr and Morganstown’ along with your name, when you make a donation).
Thank you!